Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Fasnachu mewn Pobl

 Cyfarfod – 8  Hydref 2013  – 12.30 – 13.25

Ystafell Gynadledda 21

 

Yn bresennol

Joyce Watson AC (JW)

Julie Morgan AC (JM)

Nitesh Patel (NP) – Swyddog Cyfathrebu, Joyce Watson AC

Dr Mwenya Chimba (MC) – BAWSO

Stephen Chapman (SC) – Llywodraeth Cymru

Emma Garland (EG) – Intern ar gyfer Julie Morgan AC

Robin Davies (RD) – Gwirfoddolwr International Justice Mission (IJM)

James Bushell (JB) – IJM y DU

Jim Stewart (JS) – Y Gynghrair Efengylaidd

Emeline Makin (EM) - Y Gynghrair Efengylaidd 

Jamie Westcombe (JW) – Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Zsanett Shashaty (ZS) – Partneriaeth Ymfudo Cymru (WMP)

 

Eitem 1 – Ymddiheuriadau

 

David Melding AC

Bethan Jenkins AC

Barbara Natasegara, Cymru Ddiogelach

Mike Wilkinson, New Pathways

Emmy Chater, Cyngor Dinas Casnewydd

 

Eitem 2 – 4

 

Cymeradwywyd JW yn Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Fasnachu mewn Pobl gan aelodau'r grŵp.

Cymeradwywyd BAWSO a Chymru Ddiogelach yn Ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol ar Fasnachu mewn Pobl gan aelodau o'r grŵp.

Nodwyd cywiriad i Gofnodion 4 Mehefin 2013 sef newid 'Bernie Bowen-Thomson' i  'Angelina Rodrigues '. Fel arall cymeradwywyd y cofnodion yn llawn.

 

Eitem 5

 

Dosbarthwyd papur i aelodau'r grŵp - 'Adroddiad ar Brosiect Seneddwyr yn erbyn Masnachu mewn Pobl (PAHT).

 

Eitem 6

 

Dywedodd SC bod cyllid wedi cael ei roi i'w adran ar gyfer penodi aelod newydd o staff i gydweithio ag ef ar yr agenda hon.  Mae gan yr aelod o staff brofiad o weithio i gyrff anllywodraethol.

Dywedodd SC y byddai Cydlynydd Rhanbarthol yn cael ei benodi cyn bo hir i gymryd rheolaeth dros y mater hwn yng ngogledd Cymru.

Cyfarfu SC â'r Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo. Buont yn siarad am y cynlluniau i gyflwyno'r Bil Caethwasiaeth Fodern. Bydd y Gweinidog, Lesley Griffiths AC, yn mynd i San Steffan yn fuan i drafod y mater hwn ymhellach.

Dywedodd SC y bydd y Bil Caethwasiaeth Fodern yn dod â gwahanol ddeddfwriaeth at ei gilydd mewn un lle. Byddai'r Ddeddf Enillion Troseddau yn caniatáu arian i gefnogi asiantaethau gorfodi'r gyfraith a chaniatáu i'r enillion gefnogi dioddefwyr.

Dywedodd SC y byddai Comisiynydd Masnachu mewn Pobl yn cael ei benodi yn sgil y Bil a  chyflwyno gorchmynion atal Masnachu. Byddai gan yr heddlu awdurdod i fynd ar fwrdd llongau.  Meysydd eraill fyddai'n cael eu hystyried byddai arferion cyflogaeth.  Byddai 'tasglu rhithwir' hefyd yn cael ei sefydlu yn sgil y Bil.

Dywedodd SC bod Llywodraeth Cymru yn edrych i adnewyddu a gwella ei Gwefan 'Masnachu mewn Pobl' a'r nod fyddai ei gwneud yn ganolbwynt i bob peth sy'n ymwneud â Masnachu mewn Pobl, gan gynnwys yr hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghymru ac astudiaethau achos.  Y nod fydd i sicrhau bob amser ei bod yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Dywedodd SC bod y Cynllun Cyflawni ar gyfer Arweinyddiaeth wedi pwysleisio'r angen i 'ddod o hyd i sylfaen dystiolaeth briodol'. Byddai set ddata cynradd ac eilaidd yn cael ei llunio. Pwysleisiodd yr achos diweddar yng Ngwent i bobl ledled Cymru bod hwn yn fater y mae angen mynd i'r afael ag ef.

Mae hyfforddiant yn flaenoriaeth ac mae grŵp gorchwyl ar hyfforddiant ynghyd â nifer o fentrau hyfforddi eraill ledled Cymru wedi cael eu sefydlu yn ddiweddar.  Dywedodd SC bod cysondeb mewn hyfforddiant yn bwysig.

Dywedodd SC bod Cynllun Cyfathrebu yn cael ei roi at ei gilydd ar hyn o bryd, nid yn unig i wella'r wefan newydd ond er mwyn cyflwyno DVD 4 munud newydd ar draws Cymru.

Dywedodd SC bod angen mwy o ymwybyddiaeth drwy'r cyfryngau a thrwy helpu gyda rhaglenni dogfen a datganiadau i'r wasg.

Mae Angelina Rodriguez o BAWSO yn arwain ar Lwybr Gofal i Ddioddefwyr.

Dywedodd SC fod ei adran yn cydweithio'n agos â rhanddeiliaid ledled Cymru.

Cadarnhaodd SC bod BAWSO bellach yn ymatebwr cyntaf.

Cadarnhaodd SC ei fod bob amser ar gael i weithio gyda rhanddeiliaid ledled Cymru.

Rhaid ystyried masnachu mewnol fel mater sydd yr un mor bwysig â masnachu mewn pobl o wledydd eraill.

Croesawodd JW gamau tuag at sefydlu 'Comisiynydd Masnachu mewn Pobl' 'o fewn darpariaethau'r Bil Gwrth-Gaethwasiaeth ond dywedodd ei bod ychydig yn nerfus o glywed am Gydlynwyr Rhanbarthol yng Nghymru ac a fyddai mecanweithiau adrodd yn ddryslyd.

Dywedodd SC ei fod yn teimlo unwaith y bydd Cydlynwyr Rhanbarthol yn eu lle, bydd Cymru mewn gwell sefyllfa i fynd i'r afael â'r mater o Fasnachu mewn Pobl.

Gofynnwyd cwestiwn am 'Brosiect Polaris' ac a oedd Cymru yn ystyried gwneud defnydd ohono. Dywedodd SC ei fod yn ymwybodol o Brosiect Polaris ac yn genedlaethol eu bod yn ymchwilio iddo, gyda'r bwriad o weld sut y gellid ei defnyddio yng Nghymru. Dywedodd SC y byddai'n cael y wybodaeth ddiweddaraf yn ei gylch i aelodau'r grŵp ar gyfer y cyfarfod nesaf.

Dywedodd JW fod cynyddu ymwybyddiaeth ac addysg am effaith ddinistriol Masnachu mewn Pobl ac adrodd ar hynny'n hanfodol.

Dywedodd SC bod hyfforddiant ar ymwybyddiaeth yn bwysig a bod angen gwneud mwy yn y maes hwn cyn ystyried 'Polaris' a rhif llinell gymorth ganolog.

 

Eitem 7

 

 Dywedodd MC fod BAWSO yn arwain ar Lwybrau Gofal i Ddioddefwyr. Mae BAWSO hefyd yn gweithio gyda Fforwm Aml Asiantaeth Caerdydd ac yn dysgu arfer gorau.

Mae BAWSO wedi cyflwyno 4 'Dosbarth Meistr' ar Fasnachu mewn Pobl i godi ymwybyddiaeth ac maent yn agored i bawb.

Mae BAWSO yn dal i weithio'n agos gyda'r Sefydliad Masnachu mewn Pobl (HTF) ac mae MC yn aelod o'r Safonau Gofal Cenedlaethol ac wedi gweithio'n agos yn y broses o'i sefydlu.

Dywedodd MC ei bod yn hapus y bydd y Bil newydd yn dod â gwahanol ddeddfwriaeth at ei gilydd.

Dywedodd MC fod BAWSO yn gweithio ar ei bedwerydd  adroddiad ar Fasnachu mewn Pobl a'r hyn sy'n digwydd ledled Cymru ar hyn o bryd, gyda disgwyl lansiad ym mis Tachwedd 2013.

Dywedodd SC y byddent ar 9 Hydref 2013 yn cyfweld ar gyfer rôl cydlynydd gogledd Cymru.

 

Eitem 8

 

Dywedodd NP y byddai cynrychiolwyr o UKBA a'r Swyddfa Gartref yn dod i'r cyfarfod nesaf.

Dywedodd ZS ei bod wedi cael e-bost gan y Swyddfa Gartref. Mae Joanna Hopkins wedi cytuno i gwrdd â phartneriaid allweddol, gan gynnwys Partneriaeth Ymfudo Cymru (WMP).

 

Eitem 9

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf - i'w gadarnhau.